Sioe Llanrwst Show 21/08/2010  Sioe Llanrwst Show 21/08/2010
Sioe
Llanrwst
Show


            NODYN Y CADEIRYDD/CHAIRMAN’S REPORT

Ar ran Pwyllgor Cymdeithas Amaethyddol Dyffryn Conwy, pleser o’r mwyaf yw eich croesawu yma heddiw.
Ar ôl siom y tywydd drwg llynedd, dymunaf ddiolch o galon i’r holl stiwardiaid, cadeiryddion ac ysgrifenyddion yr is-bwyllgorau am eu gwaith caled i sicrhau bod sioe 2009 wedi parhau yn ddidrafferth o dan amgylchiadau anodd i bawb.  Gwerthfawrogwn hefyd y gwaith sydd wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn i drefnu sioe 2010.  Rydym yn hynod ddiolchgar i’n Hysgrifenyddes a’n Trysorydd gweithgar sef Dorothy Roberts a Dylan Owen.
Mae ein diolch yn fawr i Mrs Mair Williams, Ty Gwyn; Mr Emyr a Mrs Christina Roberts, Hendy Gwyn; Mrs Margaret Lloyd Jones; Mr Emyr a Mrs Janet Jones, Berth Ddu; Mr Arwel a Mrs Linda Evans, Nant Isa am ganiatáu i ni gael defnydd o’r caeau flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae ein diolch yn fawr i’r holl noddwyr a’r cefnogwyr am eu rhoddion hael - diwedd y gân yw’r geiniog bob tro!
Braf yw cael croesawu ein Llywydd eleni, Mr Robert Lang sydd wedi bod â chysylltiad â’r Sioe hon ers nifer fawr o flynyddoedd.  Diolch yn fawr i bawb am ddod i gefnogi ein Sioe Amaethyddol eto eleni a gobeithio y gwnaiff bawb fwynhau.

On behalf of The Vale of Conwy Agriculture Society is gives me great pleasure to welcome you all here today.
After the disappointment of last year’s weather conditions, I wish to thank all the Stewards, Chairpersons and Secretaries of all the sub-committees for all their hard work ensuring that the 2009 Show went ahead without a hitch under very wet circumstances. We also appreciate all the work that has been done arranging this year’s Show. We are very grateful to our hard working Secretary, Dorothy Roberts and Mr Dylan Owen, Treasurer for their commitment to the Show.
Our heartful thanks goes to to
Mrs Mair Williams, Ty Gwyn; Mr Emyr a Mrs Christina Roberts, Hendy Gwyn; Mrs Margaret Lloyd Jones, Mr Emyr a Mrs Janet Jones, Berth Ddu; Mr Arwel a Mrs Linda Evans, Nant Isa for letting us have the use of the fields year after year.
To all the sponsors and supporters of the Show a big thank you for your financial assistance.
It is with great pleasure that I welcome our President Mr Robert Lang who has been a supporter of the Show for many years. Also a big thank you to you all for supporting the Show again this year and I hope you all enjoy yourselves.


Mary Jones


ENTRY FORMS AVAILABLE FROM SECRETARY


Our Blog Page     Please Sign Our Quest Book

Web Site By P A Williams admin@sioe-llanrwst-show.com